Student Volunteering
SVB Home
Projects & Volunteering
Staff
SVB Committee
Promotions Team
FAQs
Resources
Contact us
Mailing list
RAG >

Frequently Asked Questions

What is the time commitment involved with volunteering?

  • Our projects operate on a range of time scales. Most projects operate on a weekly basis however some operate on a fortnightly or even monthly basis. We also have a number of one-off volunteering opportunities such as our Christmas Tea Party, the Big Give and our Beach Cleans so you can do as much or as little as you want.

What is the length of commitment involved with volunteering?

  • Because a great deal of our work involves vulnerable groups, it’s important that volunteers stay with us as long as possible. There’s no minimum time commitment with volunteering but we do ask that people consider carefully before putting themselves forward for volunteering, that they are able to stay for the whole year. In many cases, especially when working with vulnerable adults, service users will come to rely on your continued attendance at a project. In some cases, our projects are oversubscribed and we will therefore give places to people who can commit to a full year.

Do I need to speak Welsh to volunteer?

  • No, you don’t have to speak Welsh to volunteer. We’re always very happy to accept Welsh speakers though as many of our service users speak Welsh. Who knows, perhaps you’ll pick up some new words along the way!

Is it true that you interview people? Does that mean that only people with experience will get places?

  • Yes and No. Yes, our policy is to interview all volunteers for positions involving working with children or vulnerable adults. We also interview when there are more people wishing to volunteer than we have spaces for. No, it doesn’t mean however that the people with the most experience will necessarily get the places. We look for people who are enthusiastic about the roles and are willing to commit for the whole year.

Will I receive training while I volunteer?

  • SVB run a number of training courses for volunteers throughout the year. We insist that all our volunteers who work with vulnerable people attend either Child Protection or Protection of Vulnerable Adults training sessions. We also hold Volunteer Induction training where you must take part in Health and Safety and Manual Handling training before you volunteer.

Do I need to be CRB checked and will it take ages?

  • If you’re going to be working with vulnerable people, i.e. children, the elderly or adults with mental health issues, you must undergo a CRB check. It won’t cost you a penny though as you are a volunteer. You will be provided with a form which you must complete and return to us with the original copies of 3 forms of ID. If you bring in your ID and we complete the form correctly, there’s no reason why it shouldn’t be returned within 3–4 weeks.

Can I volunteer for more than one project?

  • At present there’s no reason why you can’t volunteer for more than one project. When more than one person comes forward for a role, it may be necessary however, to allow the new volunteer to take up the place so as many people as possible get a chance to take part in our activities.

Can I volunteer over the summer?

  • At present only a few of our projects continue over the summer. We can however put you in touch with other volunteering projects, perhaps in your home town in the UK who would be delighted to offer you placements over the summer, Christmas and Easter holidays.

Do I need to find my own transport to my volunteering placements?

  • If volunteering projects operate away from the Students’ Union, we offer a minibus service to transport you to your project. This is funded by SVB.
Gwirfoddoli Myfyrwyr
Hafan GMB
Prosiectau
Staff
Y Pwyllgor
Tîm Hyrwyddo
Cwestiynnau
Adnoddau
Cysylltu â ni
Rhestr ohebu
RAG >

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth yw’r ymroddiad amser sy’n ofynnol wrth wirfoddoli?

  • Mae ein prosiectau’n gweithredu ar wahanol raddfeydd amser. Mae’r rhan fwyaf o brosiectau’n cael eu cynnal ar sail wythnosol ond mae rhai ohonynt yn cael eu cynnal bob pythefnos neu hyd yn oed yn fisol. Mae gennym hefyd nifer o gyfleoedd gwirfoddoli unwaith yn unig fel ein Te Parti Nadolig, y Rhoi Mawr a Glanhau Traethau, felly gallwch wneud cymaint neu gyn lleied ag y mynnwch.

Beth yw hyd yr ymroddiad sydd ei angen wrth wirfoddoli?

  • Oherwydd bod llawer o’n gwaith yn golygu gweithio gyda phobl sy’n agored i niwed, mae’n bwysig fod gwirfoddolwyr yn aros gyda ni cyn hired â phosib. Nid oes yna leiafswm ymroddiad amser wrth wirfoddoli ond rydym yn gofyn i bobl ystyried yn ofalus cyn cynnig eu hunain ar gyfer gwirfoddoli, a’u bod yn gallu ymroi ar gyfer y flwyddyn gyfan. Mewn llawer o achosion, yn arbennig wrth weithio gydag oedolion bregus, daw defnyddwyr y gwasanaeth i ddibynnu ar eich presenoldeb parhaus mewn prosiect. Mewn rhai achosion, mae ein prosiectau wedi’u gordanysgrifio ac felly byddwn yn rhoi lleoedd i’r rheiny sy’n gallu ymroi am y flwyddyn gyfan.

Oes angen i mi siarad Cymraeg er mwyn gwirfoddoli?

  • Na, does dim angen i chi allu siarad Cymraeg er mwyn gwirfoddoli. Ond fe fyddwn bob amser yn hapus iawn i dderbyn siaradwyr Cymraeg gan fod llawer o’n defnyddwyr gwasanaeth yn siarad Cymraeg. Gall fod yn gyfle i wirfoddolwyr di-Gymraeg ddysgu ychydig o’r iaith!

Ydi hi’n wir eich bod yn cyfweld pobl? Ydi hynny’n golygu mai dim ond pobl gyda phrofiad fydd yn cael lleoedd?

  • Ydi ac Nac Ydi. Rydym yn cyfweld â phobl gan fod ein Polisi Amddiffyn Plant a’n Polisïau Amddiffyn Oedolion Bregus yn dweud fod yn rhaid i ni wneud hynny os ydi’r safle yn golygu gweithio gyda phlant neu oedolion bregus. Byddwn hefyd yn cyfweld pan fo yna fwy o bobl yn dymuno gwirfoddoli na sydd gennym o leoedd ar eu cyfer. Ond nid yw hynny’n golygu o anghenraid mai’r bobl gyda’r mwyaf o brofiad fydd o anghenraid yn cael y lleoedd. Rydym yn chwilio am bobl sy’n frwdfrydig ynghylch y safleoedd gwaith ac yn barod i ymroi am y flwyddyn gyfan.

A fyddaf yn derbyn hyfforddiant pan fyddaf yn gwirfoddoli?

  • Mae GMB yn cynnal nifer o gyrsiau hyfforddi i wirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn mynnu fod ein holl wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion bregus yn mynychu naill ai’r hyfforddiant Amddiffyn Plant neu’r hyfforddiant Amddiffyn Oedolion Bregus. Rydym hefyd yn cynnal hyfforddiant cynefino ble bydd gofyn i chi yn y rhan fwyaf o achosion ddilyn hyfforddiant Iechyd a Diogelwch a Thrafod â Llaw cyn i chi wirfoddoli.

Ydw i angen cael gwiriad gan y Ganolfan Cofnodion Troseddol ac a fydd hynny’n cymryd amser maith?

  • Os byddwch yn gweithio gyda phobl sy’n agored i niwed, h.y. plant, henoed neu oedolion gyda phroblemau iechyd meddwl, rhaid i chi gael gwiriad gan y Ganolfan Cofnodion Troseddol. Ond ni fydd yn costio ceiniog i chi gan eich bod yn wirfoddolwr. Fe gewch ffurflen gennym y bydd yn rhaid i chi ei llenwi a’i dychwelyd i ni ynghyd â’r copïau gwreiddiol o dair ffurf ar gerdyn adnabod. Os dewch chi â’ch cardiau adnabod ac y gwnawn ni gwblhau’r ffurflen yn gywir, nid oes yna reswm pam na ddylai gael ei dychwelyd o fewn 3–4 wythnos.

A allaf wirfoddoli ar gyfer mwy nag un prosiect?

  • Ar hyn o bryd nid oes yna reswm pam na allwch wirfoddoli ar gyfer mwy nag un prosiect. Ond wrth i wirfoddoli ddod yn fwy poblogaidd, efallai y bydd angen i ni gyfyngu’r nifer o brosiectau rheolaidd y gall gwirfoddolwr arwyddo ar eu cyfer er mwyn sicrhau fod pawb yn cael cyfle teg i gymryd rhan.

A allaf wirfoddoli dros yr haf?

  • Ar hyn o bryd dim ond 2 o’n prosiectau sy’n parhau i fynd dros yr haf. Fe allwn fodd bynnag eich rhoi mewn cysylltiad â phrosiectau gwirfoddoli eraill, o bosib yn eich tref gartref yn y DU, a fyddai’n hapus i gynnig lleoliadau i chi dros wyliau’r haf, Nadolig a Phasg.

A ydw i angen fy nhrafnidiaeth fy hun i gyrraedd fy lleoliadau gwirfoddoli?

  • Os yw’r prosiectau gwirfoddoli yn cael eu cynnal tu allan i Undeb y Myfyrwyr, byddwn yn cynnig gwasanaeth minibys i’ch cludo at eich prosiect. Cyllidir hynny gan GMB.