Societies
Societies Home
A–Z List
International Societies
FAQs & Resources
Starting a Society
Societies Awards

Societies FAQs & Resources

There are often so many questions people have about societies, from simply wanting to know how to get involved, to trying to find out how to get hold of a minibus to get somewhere.

This is a quick rundown of some fairly common questions, with answers attached!

Questions that everyone asks:

How do I get involved in a Society?

  • Most of our societies have stalls at Serendipity, the freshers’ fair that takes place in both September and January – you can meet them there!
  • Alternatively, have a look at the big Societies A–Z list, send the society an email or visit their website or facebook page and they’ll be back in touch quickly!

How can I start a Society?

  • Firstly, you’ll need to find some other people who’re up for joining your new society, shouldn’t be too hard, we’re a pretty diverse lot in Bangor!
  • Next, you’ll need to think what your society’s aims and objectives are going to be, what’s the society for? What do you want it do? What kind of activities and monkey-business do you want get up to?
  • Then… drop in for a cuppa or email your thoughts to the VP Societies & Sustainability and then we can get you set up with a funky constitution and a whole load of other goodies and you’re good to go!

What does the SU do for Societies?

Questions that committees in charge of societies often ask:

What membership fee should we charge?

  • It’s completely up to you, most societies tend to go for between £3–£5, but it depends on your society’s fundraising needs, how much it costs to run your activities and making the society affordable and attractive to potential members.

How do we hold Elections?

When should we hold Elections?

  • Usually around Easter is the best time, to give you the time to iron out any issues and make sure the new committee are sorted before the old committee leaves!

How do we handover to a new committee?

  • It might sound a bit boring – but simply, tell them everything!
  • Usernames, passwords are often commonly forgotten
  • Tell the new committee what worked and what didn’t, good ideas that you had but never got around to implementing, everything you think is important
  • And remember to tell them to stay in touch with the Union!

How can we fundraise?

  • There are absolutely tons of different ways of fundraising, you’re only limited by your creativity!
  • Try and consider the fundraising potential of all activities you do and your society’s subject area – for example running a fair-trade tea & cake stall, charging people to come and see a production, etc.

How do we hold an Annual General Meeting – and what is one!? How do you hold meetings? How do you take minutes?

  • Again, for all of these questions, you should have a read of the ‘Rough Guide to Bureaucracy’, it will tell you everything you need to know – but no boring rubbish, just the simple basics you’re after!

How does all the Finance stuff work?

When do we need to do a risk assessment?

  • You’ll need a general risk assessment of your societies activities, this should be updated annually in consultation with the Clubs & Societies Administrator.
  • You’ll also need to hand in a completed risk assessment form to the Clubs & Societies Administrator at least two full days in advance of any event outside of your normal activities.
  • Have a look at the blank Risk Assessment form, it’s fairly easy to fill in!

How do we book a minibus or a coach?

Who can drive the SU minibuses?

  • To drive the SU’s minibuses, drivers must have taken and passed a MiDAS test. We do these in the Union (simply ask at reception)
  • To be eligible to take a MiDAS test drivers must be at least 21 years of age and have held a full driving licence for at least three years

How much do the Union Minibuses cost to use?

  • All vehicles are charged at 60p per mile.

How can we get sponsorship for our Society?

What if non-students want to join?

How can we market our Society?

Can we use our own cars?

How do we book a room?

Can we show films?

  • Sure – just make sure it’s all in line with the policy on showing films – take a look, it explains how it all works!

How do we get things translated?

How do we use the SU Computers?

  • You can log on to any of the PC’s in the SU’s media room, just type in your society username and password – if you don’t know these, check with our friendly IT Manager.

Printing

  • To print stuff in the SU’s media room, you’ll need your society’s print code (see the IT Manager or Finance Office for this)
  • Print charges will be debited directly from your grant account:
    – Black & white (A3 or A4) – 4p per side
    – Colour (A3 or A4) – 12p per side

Where can we access our Society Email account?

  • You can check your Society Email account at www.undeb.bangor.ac.uk/exchange.
  • It’s important to check it regularly for communications from potential members and important messages from the SU!
  • If you don’t know your username or password, get in touch with our IT Manager.

What’s our address?

  • If you want to get something posted to you, then the address is:
    Your Society Name
    Bangor University Students’ Union
    Bryn Haul
    Victoria Drive
    Bangor
    Gwynedd
    LL57 2EN
Cymdeithasau
Hafan Cymdeithasau
Cymdeithasau A–Y
Cwestiynau ac Adnoddau
Sut i ddechrau Cymdeithas
Gwobrau’r Cymdeithasau

Cymdeithasau: Cwestiynau ac Adnoddau

Mae cynifer o gwestiynau gan bobl am gymdeithasau – maent yn amrywio o gwestiynau am sut i gymryd rhan i sut i gael gafael ar finibys.

Dyma restr o rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin – gydag atebion!

Cwestiynau a ofynnir gan bawb:

Sut y gallaf gymryd rhan mewn Cymdeithas?

  • Mae gan y rhan fwyaf o’n cymdeithasau stondinau yn ffair Serendipedd, Ffair y Glas a gynhelir fis Medi ac Ionawr – gallwch gyfarfod â nhw yno!
  • Fel arall, rhowch gip ar restr faith A–Y y Cymdeithasau ac anfonwch e-bost atynt neu ewch ar eu gwefan neu eu tudalen Facebook ac mi fyddant yn cysylltu’n ôl â chi!

Sut y gallaf sefydlu Cymdeithas?

  • Yn gyntaf, bydd angen i chi ddod o hyd i bobl eraill sydd â diddordeb mewn ymuno â’ch cymdeithas newydd. Ni ddylai hyn fod yn dasg rhy anodd, rydym yn griw digon amrywiol yma ym Mangor!
  • Nesaf, bydd angen i chi feddwl am nod ac amcanion eich cymdeithas a beth fydd bwriad y gymdeithas? Beth ydych chi am iddi gyflawni? Pa fath o weithgareddau a direidi ydych chi eisiau cymryd rhan ynddynt?
  • Yna… galwch i mewn am baned neu e-bostiwch eich syniadau at IL Cymdeithasau a Chynaladwyedd ac yna fe’ch cynorthwywn i lunio cyfansoddiad deniadol ac fe gewch lond gwlad o drugareddau eraill... ac fe fyddwch yn barod i gychwyn!

Beth y mae UM yn ei wneud dros y Cymdeithasau?

Cwestiynau a ofynnir yn aml gan bwyllgorau sy’n gyfrifol am gymdeithasau:

Faint o ffi aelodaeth y dylem ni ei godi?

  • Mae hynny i fyny i chi’n llwyr. Mae’r rhan fwyaf o gymdeithasau yn dueddol o godi rhwng £3–£5, ond mae’n dibynnu ar anghenion codi arian eich cymdeithas – faint fydd cost cynnal eich gweithgareddau a sicrhau bod y gymdeithas yn fforddiadwy ac yn ddeniadol i aelodau newydd.

Sut mae cynnal Etholiad?

Pryd y dylem gynnal Etholiad?

  • O gwmpas y Pasg yw’r amser gorau fel arfer, er mwyn sicrhau fod gennych ddigon o amser i ddatrys unrhyw broblemau a all godi a sicrhau bod y pwyllgor newydd yn ei le cyn i’r hen bwyllgor adael!

Sut mae trosglwyddo’r awenau i bwyllgor newydd?

  • Efallai ei fod yn swnio’n ddiflas – ond yn syml iawn, dywedwch bopeth wrthynt!
  • Yn aml iawn caiff enwau defnyddwyr a chyfrineiriau eu hanghofio
  • Dywedwch wrth y pwyllgor newydd pa bethau oedd yn llwyddiannus a beth oedd yn aflwyddiannus, rhannwch y syniadau da oedd gennych ond na gawsoch y cyfle i’w rhoi ar waith – popeth sydd yn bwysig yn eich tyb chi.
  • A chofiwch ddweud wrthynt am gadw mewn cysylltiad â’r Undeb!

Sut y gallwn godi arian?

  • Mae yna sawl gwahanol ffordd o godi arian, yr unig gyfyngiad sydd arnoch yw eich creadigrwydd!
  • Ceisiwch ystyried y potensial sydd gan yr holl weithgareddau yr ydych yn eu cynnal i godi arian a maes arbenigedd eich cymdeithas – er enghraifft cynnal stondin te a chacen masnach deg neu godi tâl ar bobl i weld cynhyrchiad etc.

Sut mae cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – a beth ydyw!? Sut mae cynnal cyfarfodydd? Sut mae cadw cofnodion?

  • Eto, am atebion i’r holl gwestiynau hyn, dylech ddarllen y ‘Bras-Ganllaw i Fiwrocratiaeth’. Cewch yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch yno – y ffeithiau sylfaenol yr ydych eu heisiau heb y manylion diflas!

Beth yw’r drefn o ran materion cyllid?

Pryd sydd angen i ni wneud asesiad risg?

  • Bydd angen asesiad risg cyffredinol arnoch ar gyfer gweithgareddau eich cymdeithas. Dylid diweddaru’r asesiad cyffredinol yn flynyddol drwy ymgynghori â’r Gweinyddwr Clybiau a Chymdeithasau.
  • Bydd hefyd angen i chi gyflwyno ffurflen asesiad risg wedi’i llenwi i Weinyddwr y Clybiau a Chymdeithasau o leiaf dau ddiwrnod llawn ymlaen llaw cyn unrhyw ddigwyddiad sydd yn wahanol i’ch gweithgareddau cyffredin.
  • Mynnwch olwg ar y Ffurflen Asesiad Risg gwag, mae’n gymharol hawdd i’w llenwi!

Sut y gallwn archebu minibys neu fws?

  • Gallwch archebu minibys neu fws drwy’r Gweinyddwr Clybiau a Chymdeithasau – galwch i mewn i’w weld – yr unig bethau fydd eu hangen arnoch yw’r dyddiadau, amserau, ac (ar gyfer y minibys), gwybodaeth am y gyrrwr/ gyrwyr.
  • Mae hefyd angen i chi lenwi Ffurflen Cofrestru Taith cyn gadael.

Pwy all yrru minibysys UM?

  • Rhaid i yrwyr basio prawf MiDAS cyn gyrru minibysys UM. Rydym yn cynnal y profion yn yr Undeb (gofynnwch yn y dderbynfa).
  • Rhaid i chi fod yn 21 oed neu’n hŷn ac yn meddu ar drwydded yrru lawn ers o leiaf dair blynedd i fod yn gymwys i sefyll y prawf MiDAS.

Faint yw cost defnyddio Minibysys yr Undeb?

  • Mae’n costio 60c y filltir ar gyfer defnyddio pob cerbyd.

Sut y gallwn gael nawdd ar gyfer ein Cymdeithas?

Beth os oes unigolion nad ydynt yn fyfyrwyr yn dymuno ymuno?

Sut y gallwn farchnata ein Cymdeithas?

  • Unwaith eto, mae UCM wedi creu deunydd gwych ar y dulliau gorau i wneud hyn. Does dim diben i ni geisio ail-greu felly mynnwch olwg ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud!

Oes hawl gennym i ddefnyddio ein ceir ein hunain?

Sut mae archebu ystafell?

  • Cysylltwch â timetable@bangor.ac.uk (ar gyfer archebu ystafell yn ystod y dydd) neu reservations@bangor.ac.uk (ar gyfer archebu ystafell gyda’r nos) a dywedwch wrthynt o ba Gymdeithas yr ydych chi, pa ystafell yr hoffech ei defnyddio, yr amser a’r dyddiad!

Oes hawl gennym i ddangos ffilmiau?

  • Wrth gwrs – ond sicrhewch eich bod yn cadw at delerau’r polisi dangos ffilmiau – rhowch gip arno, mae’n egluro sut mae’r holl beth yn gweithio!

Sut y gallwn gael deunydd wedi’i gyfieithu?

  • Mae’n syml – e-bostiwch y testun at gyfieithydd UM.
  • Sut mae defnyddio Cyfrifiaduron UM?
  • Gallwch fewngofnodi ar unrhyw gyfrifiadur yn ystafell gyfryngau UM, teipiwch enw defnyddiwr eich cymdeithas a’ch cyfrinair – os nad ydych yn siŵr ohonynt, gofynnwch i’n rheolwr TG cyfeillgar.

Argraffu

  • Bydd angen cod argraffu’r gymdeithas arnoch er mwyn argraffu deunydd yn ystafell gyfryngau UM (cysylltwch â’r rheolwr TG neu’r Swyddfa Gyllid am y cod hwn)
  • Caiff y gost am argraffu ei gymryd yn uniongyrchol o’ch cyfrif grantiau
    – Du a gwyn (A3 neu A4) – 4c
    – Lliw (A3 neu A4) – 12c

Ym mhle y gallwn ganfod cyfeiriad e-bost ein cymdeithas?

  • Gallwch wirio cyfrif e-bost eich cymdeithas ar www.undeb.bangor.ac.uk/exchange
  • Mae’n bwysig eich bod yn gwirio’r cyfrif yn rheolaidd am ohebiaeth gan aelodau posibl ac am negeseuon pwysig oddi wrth UM!
  • Os nad ydych yn gwybod beth yw eich enw defnyddiwr neu eich cyfrinair, cysylltwch gyda’n rheolwr TG.

Beth yw ein cyfeiriad?

  • Dyma’r cyfeiriad os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth:
    Enw eich Cymdeithas
    Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor
    Bryn Haul
    Heol Fictoria
    Bangor
    Gwynedd
    LL57 2EN