Beth yw RAG?

Mae RAG yn sefyll am ‘Raising And Giving’ a’n nod yw casglu arian ar gyfer dwy brif elusen leol a dwy elusen genedlaethol sy’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Ein prif fwriad yw cael HWYL wrth godi arian a gwneud ffrindiau newydd gwych ar hyd y ffordd! Byddwn yn gwneud hynny mewn unrhyw fodd posib a chroesewir unrhyw awgrymiadau.

Gallwch ganfod mwy am RAG Bangor drwy anfon e-bost atom ar rag@undeb.bangor.ac.uk neu drwy bori drwy’r wefan hon – os oes rhywbeth yn cymryd eich ffansi yna gwnewch yn siŵr o roi cynnig arno mewn unrhyw ffordd y gallwch!

Cymerwch Ran!

Mae am fod yn flwyddyn wych arall i RAG Bangor ac mae gennym amryw o weithgareddau y gallwch chi gymryd rhan ynddynt, naill ai drwy helpu i drefnu a rhedeg y gweithgareddau neu drwy ymuno a chael hwyl! Mae RAG yn rhan ragorol o fywyd prifysgol ac yn ffordd hawdd o ennill profiad gwirfoddoli, gwneud ffrindiau newydd a helpu ein helusennau dethol.

Fe allwch ein canfod ar Facebook drwy chwilio am Bangor RAG neu drwy ychwanegu Rhodri Rag fel ffrind ar Facebook – mae’n siŵr y byddwch chi yn ei gasgliad mawr o luniau p’run bynnag!

Fel arall gallwch alwm mewn i weld Helen Munro, ein rheolwr Gwirfoddoli Myfyrwyr anhygoel yma ym Mangor. Mae ei swyddfa yn Undeb y Myfyrwyr neu fe allwch anfon e-bost ati ar helen.munro@undeb.bangor.ac.uk neu roi galwad ar 01248 388021. Peidiwch anghofio y gallwch chi anfon e-bost at unrhyw un o’n haelodau pwyllgor a chanfod mwy amdanom yn ein cyfarfodydd misol.