Gwirfoddoli gyda ni
Gwirfoddolwch a rhowch rywbeth cadarnhaol yn ôl i’r gymuned myfyrwyr, cyfarfyddwch ag amrywiaeth o fyfyrwyr, a chrëwch argraff dda ar gyflogwyr posibl.
Caiff Nawdd Nos ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr ac felly ni allai weithredu heb ei gwirfoddolwyr ymroddedig a brwdfrydig. Os ydych chi’n wrandäwr da ac yn credu y gallech ddangos empathi a bod yn anfeirniadol tuag at y myfyrwyr sy’n cysylltu â ni ynghylch amrywiaeth eang iawn o broblemau, hyd yn oed am 4am, yna efallai y dylech ystyried gwirfoddoli.
Mae gofyn i’r gwirfoddolwr weithio o leiaf bedair noson bob tymor - ond gallwch ddewis a dethol pryd sydd orau gennych, fel nad yw eich gwaith gwirfoddol yn ymyrryd â’ch ymrwymiadau academaidd a chymdeithasol. Bydd gofyn i chi fynychu digwyddiad hyfforddi dwys i ddatblygu eich sgiliau, yn ogystal ag ambell i sesiwn hyfforddi pellach. Byddwch ar ddyletswydd rhwng 8am ac 8pm a bydd wastad pobl eraill yno i’ch cefnogi. Mae Nawdd Nos hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd â llawer o bobl newydd trwy ddigwyddiadau hyfforddi, sifftiau, a digwyddiadau cymdeithasol. Wrth wirfoddoli gyda Nawdd Nos, gallwch hefyd ennill oriau Gwirfoddolwyr y Mileniwm a derbyn tystysgrifau am eich ymrwymiad fydd yn edrych yn wych ar eich CV.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch, yr unig beth yr ydym yn ei ofyn yw eich bod yn fyfyriwr yma ym Mangor. Darperir hyfforddiant llawn. Gallwch gymryd gymaint o ran yn Nawdd Nos ag yr ydych yn ei ddymuno, ac efallai y byddwch yn penderfynu ymuno â’r pwyllgor a gaiff eu hethol yn flynyddol i redeg Nawdd Nos. Mae pob aelod yn gymwys i geisio am swydd ar y pwyllgor. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â nightline.deputy@undeb.bangor.ac.uk os gwelwch yn dda.
Fodd bynnag, yr ydym yn gofyn i chi feddwl yn ddwys cyn ymrwymo i wirfoddoli os ydych yn mynd trwy gyfnod anodd gan fod gwirfoddoli gyda Nawdd Nos yn medru bod yn rôl wirfoddol heriol iawn.
Caiff Trafodaethau Rhagarweiniol eleni eu cynnal ar:
Cynhelir hyfforddiant ym mis Hydref 2010 a mis Chwefror 2011 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2010-2011. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda Nawdd Nos Bangor, a’ch bod wedi darllen y disgrifiad o rôl y gwirfoddolwr, yna cofrestrwch gyda ni ar gyfer cyfweliad.
Os hoffech ragor o wybodaeth, yna anfonwch e-bost at nightline@undeb.bangor.ac.uk os gwelwch yn dda.
