Ein hegwyddorion
Mae Nawdd Nos yn trin pob galwr gyda pharch ac yn gweithredu pum egwyddor graidd i sicrhau y caiff yr hyn yr ydych am ei drafod neu gael gwybodaeth amdano ei drin yn y ffordd gywir.
Dyma ein 5 egwyddor graidd:
- Cyfrinachedd
Yr ydym yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth a gwrando hollol gyfrinachol. Gallwch ddatgelu cymaint neu cyn lleied o wybodaeth ag y dymunwch, a theimlo’n hollol dawel eich meddwl bod yr holl wybodaeth yn gyfrinachol o fewn Nawdd Nos.
- Dim cyfeirio, dim cynghori
Mae ein gwirfoddolwyr yn cydnabod fod pob un a phob sefyllfa yn wahanol felly ni fyddwn yn eich cyfeirio nac yn eich cynghori ynglŷn â’r penderfyniad gorau gan fod yn well gennym ni fod o gymorth i chi wrth i chi wneud y penderfyniad sy’n addas i chi. Ni fyddwn yn eich arwain tuag at unrhyw sefyllfa benodol nac yn ceisio datrys eich problemau trwy roi cyngor i chi. Byddwn yn cynnig awyrgylch wrthrychol a gofalgar i chi, ac yn rhoi’r cyfle i chi weithio drwy eich gofidiau drosoch eich hunan a gwneud eich penderfyniadau eich hun, gan sicrhau bod y sefyllfa a’r penderfyniadau a wnewch o dan eich rheolaeth chi yn llwyr.
- Dienw
Gallwch ddatgelu cymaint neu cyn lleied o wybodaeth amdanoch eich hun ag y dymunwch, a ni fydd ein gwirfoddolwyr byth yn gwthio am ragor o wybodaeth. Mae ein gwirfoddolwyr yno i siarad am unrhyw broblemau yr ydych chi am eu trafod, ac er nad ydynt yn swil, peidiwch â synnu os fydd hi’n well ganddynt siarad amdanoch chi yn hytrach nac am eu hunain.
- Anfeirniadol
Mae Nawdd Nos a’i gwirfoddolwyr yn grŵp o fyfyrwyr hollol annibynnol heb unrhyw ragfarn grefyddol, athronyddol na gwleidyddol. Rydym yn derbyn ac yn parchu barn pob galwr ac ni fyddwn byth yn beirniadu nac yn barnu a byddwn yn cynnig awyrgylch diogel a chefnogol i drafod problemau’n anfeirniadol.
- Ymroddiad
Mae pob un o’n gwirfoddolwyr yn dangos ymroddiad tuag at y gwasanaeth ac yn cynnig y gefnogaeth a’r wybodaeth orau posibl i chi. Mae ein gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi i wrando ar unrhyw beth yr hoffech ei drafod ac maent yn gallu cynnig gwybodaeth ffeithiol a dibynadwy. Rydym yn hyrwyddo hunan-benderfyniad y galwr ac rydym yn gallu cynnig manylion ffynonellau cyngor proffesiynol perthnasol.
Mae ein hegwyddorion yn golygu y caiff eich galwad ei thrin yn hollol gyfrinachol a dienw. Ni fyddem fyth yn eich gwthio i ddatgelu unrhyw wybodaeth neu fanylion wrthym nad ydych yn hapus i’w rhoi. Rydym yma i wrando arnoch ac i’ch cefnogi chi, ond ni allwn chwifio hudlath.
