Oes yna ffyrdd eraill y gallaf gefnogi Nawdd Nos?
Y prif ddull o gefnogi Nawdd Nos yw gwirfoddoli gyda ni, fodd bynnag rydym yn cynnal nosweithiau Gweithgarwch Myfyrwyr (SIN) yn rheolaidd yn Undeb y Myfyrwyr ac mae’r tâl mynediad yn cyfrannu tuag at ein hincwm. Mae hefyd yn esgus gwych i wisgo gwisg ffansi!
Gallwch gyfeirio pobl at y wefan hon os oes angen cymorth arnynt neu os ydynt eisiau rhagor o wybodaeth am Nawdd Nos. Lledaenwch y neges, oherwydd efallai bod gofidiau a phroblemau sydd angen eu trafod gan rai pobl nad ydynt yn ymwybodol o’r gwasanaeth.
Caiff Nawdd Nos gymorth ariannol gan Undeb y Myfyrwyr, ond rydym bob amser yn falch iawn o gefnogaeth ychwanegol. Os ydych yn dymuno gwneud cyfraniad, cysylltwch â ni yn uniongyrchol drwy e-bostio nightline@undeb.bangor.ac.uk
