Hanes
Ym Mhrifysgol Essex ym mis Mai 1970, daeth i sylw cyn-gyfarwyddwr Samariaid Colchester a oedd hefyd yn gaplan bod niferoedd uchel iawn o fyfyrwyr lleol yn cyflawni hunanladdiad ac fe benderfynodd hyfforddi criw o fyfyrwyr i ddarparu cefnogaeth i’w cyfoedion o ystafell fechan ar gampws y brifysgol. Felly, am y tro cyntaf erioed sefydlwyd Nawdd Nos. Nid oedd yn hir cyn i’r syniad o gynnig cefnogaeth i gyfoedion yn ystod oriau’r nos, y cyfnod hwnnw pan nad oes rhyw lawer o wasanaethau penodol ar gyfer myfyrwyr ar gael, ennyn sylw ac ysbrydoli eraill.
Yn 1974, sefydlodd Prifysgol Bangor y degfed Nawdd Nos yn y DU, ac mae’n dal i ffynnu heddiw. Fel y gallwch ddychmygu mae Nawdd Nos Bangor wedi gweld cryn ddatblygiad yn ystod ei 37 mlynedd o wasanaeth. Rydym wedi datblygu o gael llond llaw o wirfoddolwyr i bron a bod 70 o wirfoddolwyr sy’n rhoi dros 5000 awr o’u hamser bob blwyddyn i gefnogi a chynorthwyo hyd at 1000 o alwyr y flwyddyn. Rydym yn recriwtio’n rheolaidd ac yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd sy’n cynnwys sesiynau gwerthfawr iawn dan ofal yr Ysgol Dysgu Gydol Oes, y Samariaid, ac asiantaethau cefnogi cenedlaethol eraill. Rydym wedi ychwanegu at ein horiau dros y blynyddoedd ac rydym erbyn hyn yn cynnig ein gwasanaeth rhwng 8pm-8am bob nos yn ystod y tymor. Rydym yn parhau i ymdrechu i greu gwasanaeth mwy a gwell nac erioed, felly cadwch lygad ar ein datblygiad gan fod hanes Nawdd Nos yn dal i gael ei greu.
Mae sefydliadau Nawdd Nos ar draws y DU yn parhau i gael eu sefydlu o Exeter i St Andrews. Erbyn hyn mae yna 34 sefydliad Nawdd Nos ar hyd ac ar led y DU, yn gwasanaethu 124 o golegau a phrifysgolion. Yn 2006 daeth pob sefydliad Nawdd Nos ynghyd er mwyn ffurfio Cymdeithas Genedlaethol Nawdd Nos sy’n cefnogi sefydliadau Nawdd Nos, fel ein un ni, gan gynorthwyo eraill i sefydlu rhai newydd. Gyda chefnogaeth Cymdeithas Genedlaethol Nawdd Nos mae’r syniad gwreiddiol o gyfoedion yn gwrando ac yn cefnogi ei gilydd gan gynnig gwybodaeth dros y ffôn wedi parhau i ledaenu ar draws y byd i’r Unol Daleithiau, yr Almaen, ac yn ddiweddar i Affrica.
