En
  1. Gwirfoddolwyr Cyfredol

Cysylltu â rhywun i’ch cynnal a’ch cefnogi chi
Rydym yn cydnabod bod gwirfoddoli gyda Nawdd Nos yn ddigon anodd ar adegau. Rydym yn darparu rhwydwaith o gysylltiadau i’ch helpu a’ch cefnogi yn ystod eich hyfforddiant, y cwrs sefydlu, wrth i chi gyflawni eich dyletswyddau yn ogystal â thu allan i oriau Nawdd Nos. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am rwydwaith cefnogi Nawdd Nos drwy’r wybodaeth a gaiff ei arddangos yn adeilad Nawdd Nos, drwy e-bostio nightline.deputy@undeb.bangor.ac.uk, neu drwy wirio’r system rota. Mae Nawdd Nos wastad yma i’ch cefnogi chi yn ogystal â bod yn gefn i eraill felly mae croeso i chi wneud defnydd o’r gwasanaeth eich hun os byddwch yn dymuno siarad yn agored ac yn gyfrinachol gyda rhywun sydd â gwir ddealltwriaeth o’ch sefyllfa, ac fel y gwyddoch ni fyddant yn rhoi cyngor i chi na dweud wrthych beth i’w wneud ond yn hytrach fe fyddant yn eich cynorthwyo chi i wynebu’r sefyllfa mewn ffordd newydd.                     

Eich rôl
Mae eich rôl fel gwirfoddolwr Nawdd Nos yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein parhad. Os ydych yn teimlo yr hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw agwedd o’ch rôl neu os oes cwestiynau gennych yn dilyn eich hyfforddiant yna peidiwch â meddwl ddwywaith cyn cysylltu â ni drwy e-bostio:
nightline.training@undeb.bangor.ac.uk; nightline.coordinator@undeb.bangor.ac.uk; neu nightline.deputy@undeb.bangor.ac.uk.

Eich Pwyllgor
Mae’r Pwyllgor yno i redeg a datblygu’r gwasanaeth, ac ar yr un pryd i fod yn gymorth ac yn gefn i chi yn eich rôl. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gwaith y mae’r pwyllgor yn ei wneud ar hyn o bryd drwy daro golwg ar yr adran gofnodion ar y system rota ar-lein, neu efallai y byddai’n well gennych gysylltu â nhw’n uniongyrchol drwy e-bost gyda’ch argymhellion a’ch sylwadau. Fel y gwyddoch, mae’r pwyllgor yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau awyrgylch wych i chi wirfoddoli ynddi, hyfforddiant safonol, digwyddiadau cymdeithasol gwych, cefnogaeth, a gwasanaeth anhygoel i wirfoddoli iddo, ond mae angen eich cymorth chi arnom i gyflawni hynny. Mae Nawdd Nos a’r pwyllgor yn werthfawrogol iawn o’ch cefnogaeth i’r gwasanaeth a’n digwyddiadau gan ei fod yn gymorth aruthrol i ddatblygu’r gwasanaeth ac mae’n gymorth hefyd i roi’r hwb sydd ei angen ar eich cyd-wirfoddolwyr ac aelodau’r pwyllgor i barhau i weithio mor ddiwyd dros y gwasanaeth.    

Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Yn ystod y broses hyfforddi mae Nawdd Nos yn cofrestru ei holl wirfoddolwyr ar brosiect Gwirfoddolwyr y Mileniwm Undeb y Myfyrwyr. Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn grŵp a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n achredu gwirfoddolwyr am eu gwaith caled  drwy dystysgrifo nifer yr oriau y maent yn eu gwirfoddoli. Gallwch dderbyn tystysgrifau gan Wirfoddolwyr y Mileniwm am 50, 100 a 200 o oriau a weithiwyd mewn prosiectau gwirfoddol. Mae Nawdd Nos yn cefnogi’r cynllun hwn a’r modd y mae’n gwobrwyo ei gwirfoddolwyr. Er mwyn hwyluso pethau i chi fel gwirfoddolwr, mae Nawdd Nos erbyn hyn yn cadw cofnod o’ch oriau ar eich rhan - felly'r unig beth sydd angen i chi ei wneud yw eistedd yn ôl ac aros i’r tystysgrifau gyrraedd yn wobr i chi am eich holl waith caled gyda ni! Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy gysylltu â nightline@undeb.bangor.ac.uk

Gadael Nawdd Nos
Rydym yn deall fod bywyd Prifysgol yn llawn cyfyngiadau amser a phe baech yn penderfynu gadael Nawdd Nos yna mae’n broses hawdd - rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at nightline.secretary@undeb.bangor.ac.uk. Yna, gyda deigryn byddwn yn e-bostio ffurflen ymadael atoch sy’n gymorth mawr i ni er mwyn monitro a gwella’r profiad o wirfoddoli gyda Nawdd Nos. Yn unol â’n polisi Gwarchod Data mae Nawdd Nos yn cadw gwybodaeth am wirfoddolwyr am flwyddyn yn dilyn eu hymadawiad - am ragor o wybodaeth am hyn, e-bostiwch nightline.secretary@undeb.bangor.ac.uk os gwelwch yn dda.