En

Cysylltwch â ni ynghylch....

Unrhyw beth!

Mae ein llinellau ffôn ar agor rhwng 8pm-8am ac mae’r galwadau a dderbyniwn yn dueddol o rannu i ddau gategori eang:

Galwadau gwrando...
Mae Nawdd Nos yn rhoi’r cyfle a’r amser i chi i siarad a thrafod yr hyn sydd ar eich meddwl. Os oes rhywbeth yn pwyso ar eich meddwl neu eich bod eisiau sgwrs, yna mae Nawdd Nos yma i wrando gyhyd ag y dymunwch. Ni allwn gynnig yr holl atebion ond yr ydym yn poeni am yr hyn sy'n eich gofidio. Fel cyd-fyfyrwyr, rydym yn deall bod bywyd Prifysgol yn gyfnod o newid mawr sy’n creu nifer o sialensiau, ac mae medru siarad â rhywun, yn enwedig cyd-fyfyriwr, yn gwneud gwahaniaeth. Ni fyddwn yn barnu nac yn dweud wrthych beth i'w wneud, ond beth bynnag yr hoffech ei drafod rydym yma bob amser. Mae Nawdd Nos yn hollol gyfrinachol a dienw, felly does dim angen i chi ddadlennu unrhyw beth nad ydych eisiau, ac ni fyddwn byth yn gofyn i chi wneud hynny. Does dim un broblem sy'n rhy fawr nac yn rhy fach, os ydych yn gofidio amdano yna rydym yma i wrando.     

Galwadau gwybodaeth...
Gall Nawdd Nos ddarparu gwybodaeth ffeithiol a diduedd oddi wrth ffynonellau dibynadwy. Nid ydym yn darparu cyngor ein hunain ond gallwn ddarparu manylion ffynonellau cynghori proffesiynol perthnasol eraill i’ch helpu gyda’ch problem. Gallwn ddarparu gwybodaeth ar ystod eang iawn o broblemau o fenthyciadau myfyrwyr i leoliad y clinig iechyd rhywiol agosaf. Mae gennym fanylion cyswllt ar gyfer ystod eang o sefydliadau sy’n amrywio o wasanaethau atgyweirio nwy at linellau atal ysmygu a Crimestoppers. Gallwn ddarparu gwybodaeth am y Brifysgol, a gwybodaeth leol a chenedlaethol - felly os ydych angen rhif ffôn tacsi er mwyn mynd â chi adref o glwb nos, amserlenni arholiad neu wirio lleoliad arholiad, neu wybodaeth am y bwyty bwyd parod agosaf - mae Nawdd Nos yma i helpu.  

Fel y gwelwch, gallwch gysylltu â Nawdd Nos ynglŷn ag unrhyw beth yr hoffech ei drafod, rhwng 8pm-8am bob nos yn ystod y tymor. Mae’r rhif ffôn gyda chi - ar gefn eich carden myfyriwr felly mae croeso i chi ein ffonio unrhyw bryd.