Cwestiynau a ofynnir yn aml
Sut mae cysylltu â Nawdd Nos?
Os ydych yn dymuno cael sgwrs neu yn chwilio am wybodaeth yna cysylltwch â ni drwy ffonio os gwelwch yn dda - mae’r rhif ffôn ar gefn eich cerdyn adnabod myfyriwr. Os oes gennych unrhyw ymholiad am Nawdd Nos, nad yw’n gofyn am ymateb ar unwaith yna e-bostiwch ni ar nightline@undeb.bangor.ac.uk os gwelwch yn dda.
Pryd y gallaf gysylltu â Nawdd Nos?
Mae llinellau ffôn Nawdd Nos Bangor ar agor rhwng 8pm ac 8am bob nos yn ystod y tymor i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu ymholiad ynglŷn â Nawdd Nos yna gallwch anfon e-bost atom unrhyw bryd - nightline@undeb.bangor.ac.uk - ac fe wnawn ein gorau i ymateb cyn gynted â phosibl.
Gyda phwy y byddaf yn siarad pan fyddaf yn ffonio Nawdd Nos?
Byddwch yn siarad â myfyriwr arall o Brifysgol Bangor, sydd wedi cael hyfforddiant trylwyr i ddarparu cefnogaeth heb ragfarn sy’n hollol gyfrinachol, yn ogystal â chynnig gwybodaeth leol, gywir.
Pa bethau y gallaf eu trafod gyda Nawdd Nos?
Unrhyw beth! Gallwch ffonio os ydych yn dymuno trafod unrhyw beth, os oes angen rhif ffôn bwyty bwyd parod da arnoch neu os ydych eisiau bwrw’ch bol! Ni fydd gwirfoddolwyr Nawdd Nos yn rhoi cyngor i chi gan nad ydynt wedi’u hyfforddi ar broblemau penodol, ond fe fyddwn yn gwrando ac yn trafod eich sefyllfa gyda chi er mwyn bod yn gymorth i chi ddod i’ch casgliadau eich hunain. Gan mai gwasanaeth sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr yw Nawdd Nos, rydym yn darparu ar gyfer anghenion penodol myfyrwyr ac ni fyddwn yn eich barnu na’ch bychanu - gan eich galluogi chi i drafod yn onest ac yn agored mewn cyfrinachedd llwyr.
Pa mor aml y gallaf gysylltu â Nawdd Nos?
Gallwch gysylltu â Nawdd Nos cyn amled â’ch bod angen ein cymorth.
Pa wybodaeth y mae Nawdd Nos yn ei gadw am eu galwyr?
Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei gadw ar gofnod. Mae’n ofynnol i Nawdd Nos gadw rhai ystadegau cyfyngedig (nifer y galwadau a dderbyniwyd, rhywedd y galwyr, categori a hyd y galwad) er mwyn cefnogi ein datblygiad a’n ceisiadau am gyllid. Fodd bynnag, ni all y wybodaeth hon arwain at adnabod galwyr unigol. Os hoffech ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data yna e-bostiwch nightline.secretary@undeb.bangor.ac.uk os gwelwch yn dda.
A fydd hi’n bosibl i mi gysylltu â’r un gwirfoddolwr eto?
Mae Nawdd Nos yn cynnal cyfrinachedd llym iawn yn achos ei gwirfoddolwyr, felly ni fydd y gwirfoddolwr yn medru datgelu gwybodaeth bersonol na phryd y maent ar ddyletswydd. Fodd bynnag, os fyddwch yn galw’n ôl ar yr un noson, yna mae’n bosibl y gallech siarad â’r un gwirfoddolwr eto os nad ydynt yn siarad â galwr arall.
Beth y dylwn ei wneud pan fydd Nawdd Nos ar gau yn ystod y dydd?
Gallwch anfon e-bost atom y tu allan i oriau ein llinellau ffôn a’r tu allan i dymor y coleg - nightline@undeb.bangor.ac.uk. Os hoffech siarad â rhywun, cysylltwch â’r Samariaid, neu cysylltwch ag unrhyw un o’r gwasanaethau a restrir ar ein tudalen cysylltiadau allanol.
Dydw i ddim yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. A allaf ffonio Nawdd Nos?
Mae Nawdd Nos Bangor wedi’i anelu at fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn nhermau’r hyfforddiant a roddir i’n gwirfoddolwyr a’r wybodaeth y gallwn ei darparu. Am wybodaeth ar sefydliadau Nawdd Nos sy’n gwasanaethu eich sefydliad chi, ewch ar Wefan Genedlaethol Nawdd Nos. Os nad ydych yn fyfyriwr mewn unrhyw sefydliad, byddem yn eich cyfeirio ar y Samariaid.
