Athletic Union
AU Home
Membership
AU Clubs
AU Clothing
BUCS Leagues
Intramural Sport
Varsity
Social Events
AU Awards
AU Committee

Varsity 2010: Bangor v Aberystwyth

Sport Bangor Aber
Football (Men’s) 1
Football (Women’s) 1
Rugby (Women’s) 1
American Football 1
Rugby (Men’s) 1
Basketball (Men’s) 1
Basketball (Women’s) 1
Netball 1
Hockey (Men’s) 1
Hockey (Women’s) 1
Squash 1
Tennis (Men’s) 1
Tennis (Women’s) 1
Fencing (Men’s) 1
Fencing (Women’s) 1
Badminton (Men’s) 1
Badminton (Women’s) 1
Conceded
Ultimate Frisbee 1
Rugby League 1
Riding 1
Judo 1
Total 12 9

Over 400 competitors, 17 matches, only one winner!

On Saturday 20 March, Bangor saw the return of the multisport competition (‘Varsity’) between Bangor and Aberystwyth. In its third year and with one win a piece; this would be the decider. Formerly the competition took place over a weekend but this year we crammed even more matches into just one day. The atmosphere was intense and the competition was fierce.

All the athletes faced a wet and windy start to the day but spirits were high and there was a quiet determination in the air. Aberystwyth arrived in their droves ready to begin the competition with the first match, Men’s Hockey.

The day started well for Bangor as we decisively won both Men’s and Women’s Hockey; however Aberystwyth fought back and showed their skill at Treborth playing fields, taking victory from 4 out of 5 matches played there. An Aberystwyth whitewash was only narrowly avoided at Treborth with a particularly tough Men’s Rugby Union game won by Bangor. Throughout the day the overall result was too close to call as both sets of athletes gave their all.

As the evening came and the result announcement drew closer, the chanting from the two teams and their supporters grew louder. One by one the scores were announced with thunderous cheers from each of the winning teams.
Then came the biggest cheer as it was announced: ‘Final score: Aberystwyth 9, Bangor 12’.
The trophy was handed over and it will proudly remain with Bangor’s Athletic Union until next year.

This was a fantastic day of sport for Bangor and one which will not be soon forgotten. The question is though; can Bangor be the first to win on foreign ground by taking victory in Aber next year?
We will see…

Andy John
Athletic Union President 09–10

Yr Undeb Athletau
Hafan yr UA
Aelodaeth
Clybiau’r UA
Dillad yr UA
Cynghreiriau BUCS
Chwaraeon Rhyngfurol
Pencampwriaeth Rhyng-Brifysgol
Digwyddiadau Cymdeithasol
Gwobrau’r UA
Pwyllgor yr UA

Pencampwriaeth Rhyng-Brifysgol 2010:
Bangor v Aberystwyth

Camp Bangor Aber
Pêl-droed Dynion 1
Pêl-droed Merched 1
Rygbi Merched 1
Pêl-droed Americanaidd 1
Rygbi Dynion 1
Pêl-fasged Dynion 1
Pêl-fasged Merched 1
Pêl-rwyd 1
Hoci Dynion 1
Hoci Merched 1
Sboncen 1
Tennis Dynion 1
Tennis Merched 1
Cleddyfa Dynion 1
Cleddyfa Merched 1
Badminton Dynion 1
Badminton Merched 1
Ildiwyd
Ffrisbi Eithafol 1
Rygbi’r Gynghrair 1
Marchogaeth 1
Jiwdo 1
Cyfanswm 12 9

Dros 400 o gystadleuwyr, 17 gêm, dim ond un enillydd!

Ar ddydd Sadwrn 20 Mawrth, dychwelodd y Bencampwriaeth Rhyng-brifysgol rhwng Bangor ac Aberystwyth – cystadleuaeth sy’n cynnwys llu o wahanol chwaraeon – i Fangor. Dyma drydedd flwyddyn y bencampwriaeth a gyda’r ddwy brifysgol wedi ennill un yr un roedd hon yn dyngedfennol. Arferai’r bencampwriaeth gael ei chynnal dros benwythnos ond y tro yma llwyddwyd i wasgu hyd yn oed mwy o gemau mewn i un diwrnod yn unig. Roedd yr awyrgylch yn ddwys a’r gystadleuaeth yn ffyrnig.

Wynebai’r athletwyr ddechrau gwlyb a gwyntog i’r dydd ond roedd eu hysbryd yn uchel ac roedd yna benderfyniad tawel yn yr awyr. Cyrhaeddodd Aberystwyth yn un fintai fawr ac yn barod i ddechrau’r bencampwriaeth gyda’r gêm gyntaf, Hoci Dynion.

Dechreuodd y diwrnod yn dda i Fangor wrth i ni guro’r Hoci Dynion a Merched yn hawdd ond fe ymladdodd Aberystwyth yn ôl a dangos eu sgiliau ar gaeau chwarae Treborth gan ennill 4 o’r 5 gêm a gynhaliwyd yno. Osgowyd gwyngalchiad i Aberystwyth yn Nhreborth gan gêm arbennig o galed o Rygbi’r Undeb Dynion a enillwyd gan Fangor. Roedd yn amhosib rhagweld y canlyniad terfynol drwy gydol y dydd wrth i’r ddau set o athletwyr roi o’u gorau.

Wrth iddi ddechrau nosi ac i gyhoeddiad y canlyniad terfynol agosáu, aeth canu a bloeddio’r timau a’u cefnogwyr yn uwch ac yn uwch. Cyhoeddwyd y canlyniadau un wrth un i gymeradwyaeth fyddarol gan y tîm a’r cefnogwyr buddugol.

Yna daeth y floedd uchaf un pan gyhoeddwyd: ‘Y Sgôr Terfynol: Aberystwyth 9, Bangor 12’
Cyflwynwyd y tlws ac fe fydd yn aros ym meddiant balch Undeb Athletau Bangor tan y flwyddyn nesaf.

Roedd hwn yn ddiwrnod gwych o chwaraeon i Fangor ac yn un a fydd yn fyw yn y cof am amser maith. Ond y cwestiwn ydi, a fedr Caerdydd fod y cyntaf i ennill oddi cartref drwy fod yn fuddugol yn Aberystwyth y flwyddyn nesaf? Cawn weld…

Andy John
Llywydd yr Undeb Athletau 09–10