A 5-a-side tournament for all abilities, get your friends together for the last kick around before the holidays.
The toughest event of the year! This is an individual event for our best athletes, a very demanding series of challenges showcasing Bangor’s sporting talent. There will be a male and female category and athletes will compete in the grand stadium that is Maes Glas.
Athletes will need your support to perform at their finest so come along and watch as our best compete to become… Bangor’s superstars!
Download Superstars Entry Form
Varsity is coming back to Bangor, but is the trophy?
Varsity is the annual sports competition between Bangor and Aberystwyth. The event is hosted in turn by each Uni and now in its third year will be coming back to Bangor!
This year is going to be bigger and better than ever consisting of around 16 different sports with more than 22 matches, all on a single day. Sounds exhausting!
Being such a massive event, our planning is well underway and there is loads of stuff in the pipeline you’re going to be really excited about.
This will be an opportunity to see some of our finest sportsmen and women in action. We’re expecting between 250–300 competitors from Bangor alone, so if you’re not competing yourself, you’ll definitely know someone who is! Our sports facilities will be near capacity and with the range of sports on offer there will certainly be something you’ll want to see.
The day of non-stop action will be followed by an ‘aftermath’ party where Aber will join us for the awards ceremony, and the moment of truth.
We were stripped of our title as Varsity champions last year in Aber with a stinging defeat. The tally stands at 1–1 so this is the decider! Aber are convinced that they can defeat us on our home soil, and it’s up to us to prove them wrong and emerge victorious.
Watch out for more details in the New Year.A really enjoyable event to take you back to your school years, with welly-wanging, leap-frog, bat-and-ball and many more events. Bring your friends, club or society members (or fellow staff) to join in this popular fun activity.
A team event, get your friends, society or club together for a series of harsh challenges, this event is in its second year and the Rowing Club want to defend their title as the Superteam!
This is shaping up to be a hotly contested event and something you won’t want to miss… who will be Bangor’s Superteam?
Pencampwriaeth 5 bob ochr ar gyfer pob lefel gallu; dewch â’ch ffrindiau draw am y cyfle olaf i gicio pêl cyn y Nadolig.
Digwyddiad caletaf y flwyddyn! Mae hwn yn ddigwyddiad unigol ar gyfer yr athletwyr gorau, cyfres lethol o sialensiau i arddangos talent chwaraeon Bangor. Fe fydd yna gategori dynion a merched a bydd yr athletwyr yn cystadlu yn stadiwm fawreddog Maes Glas.
Bydd yr athletwyr angen eich cefnogaeth i berfformio ar eu gorau felly dewch draw i wylio’r goreuon yn cystadlu i fod yn... Sêr UA Bangor!
Mae’r Bencampwriaeth yn dod yn ôl i Fangor ond a fydd y tlws?
Y bencampwriaeth yw’r gystadleuaeth chwaraeon blynyddol rhwng Bangor ac Aberystwyth. Mae’r bencampwriaeth yn cael ei chynnal gan y ddwy brifysgol yn eu tro ac mae nawr yn ei thrydedd flwyddyn ac yn dychwelyd i Fangor!
Mae pencampwriaeth eleni yn mynd i fod yn fwy ac yn well nag erioed ac yn cynnwys 16 gwahanol gamp gyda thros 22 gêm, i gyd ar yr un diwrnod. Swnio’n waith caled!
Gan ei fod yn ddigwyddiad mor fawr, mae ein gwaith cynllunio eisoes wedi dechrau ac mae yna lwyth o stwff ar y gweill i’ch cyffroi chi.
Fe fydd yna gyfle i weld rhai o’n mabolgampwyr gorau ar waith. Rydym yn disgwyl rhwng 250–300 o gystadleuwyr o Fangor yn unig, felly os nad ydych chi’n cystadlu eich hun byddwch yn siŵr o nabod rhywun a fydd! Bydd ein cyfleusterau chwaraeon yn agos i fod yn llawn a gyda’r amrywiaeth o chwaraeon y gallwn eu cynnig bydd yna rywbeth yn bendant y byddwch chi eisiau’i weld.
Dilynir y diwrnod o chwaraeon gan barti canlyniadau pan fydd Aber yn ymuno â ni am y seremoni gwobrwyo, a’r foment o wirionedd.
Fe gymerwyd ein teitl fel pencampwyr oddi arnom y llynedd yn Aberystwyth pan y’n gorchfygwyd yn llym. Mae’r cyfanswm yn sefyll ar 1–1 felly mae’r bencampwriaeth hon yn cyfrif! Mae Aber yn argyhoeddedig y gallant ein curo ar ein tomen ein hunain, ac mae i fyny i ni eu profi nhw’n anghywir a mynnu buddugoliaeth.
Cadwch lygad am fwy o fanylion yn y Flwyddyn Newydd.
Achlysur pleserus iawn i’ch atgoffa chi o’ch dyddiau ysgol, gyda wanglo welis, llam llyffant, bat a phêl a nifer o ddigwyddiadau eraill. Dewch â’ch ffrindiau, aelodau clwb neu gymdeithas (neu gyd aelodau staff) i gymryd rhan yn y gweithgareddau poblogaidd a difyr yma.
Achlysur tîm; dewch â’ch ffrindiau, cymdeithas neu glwb ar gyfer cyfres o sialensiau anodd. Mae’r achlysur hwn yn ei ail flwyddyn ac mae’r clwb rhwyfo eisiau amddiffyn eu teitl fel yr Uwch Dîm!
Mae hwn yn siapio i fod yn ddigwyddiad cystadleuol iawn ac yn rhywbeth na fyddwch chi eisiau ei fethu.
Pwy fydd Uwch Dîm Bangor eleni?