Here at the Students’ Union we understand how stretched you will be for money. That’s why we have friendly advisers who can assist you help with the following...
Bank Accounts, Budgeting, Debt, Hardship funds, Money saving tips, Student loans etc
The interest free overdraft facility is the most important factor when deciding which bank, not the free gift! Look past these ‘freebies’ to the more long term benefits, remember that a Young Person’s Railcard is going to be more useful in the long run than a cheap MP3 player!
If you are likely to go overdrawn during your time at university, it is essential to choose an undergraduate student bank account that offers you a free overdraft that is large enough to meet your needs. Make sure you know what overdraft limit is available and read the small print so you know about any charges and how to avoid them!
Click on to Martin Lewis’s Money Saving Expert for further information and to check out what’s on offer.
When you start University you will be living on a fixed income, so it's a good idea to plan your finances. It’s not sexy and might even be a bit boring but keeping a record of your incomings and outgoings can really help you to budget properly.
Register for internet banking; ideally check your account on a daily or weekly basis. Keep a spending diary, it is a fantastic way of keeping track of your money and also makes you think twice before buying non essential items.
Advantages of budget planning
+ you know how much money you have coming in
− you know how much money you have going out
= you can plan your spending so that you are never left with periods in which you have no money.
Knowing where you stand with your limited finances can reduce your stress levels! Try this student budget calculator or the budget planner at Money Saving Expert to get you started, or you can always access further support from the friendly advisers in the Advice Centre.
Most students who are studying full-time are not eligible for either income based or contribution based JSA.
Although there are some exceptions to the rules which include some of the following groups:
These groups may be able to claim some JSA/IS/ESA to cover the summer period. For further information on the exceptions please contact the Advice Centre.
Child Benefit is a tax-free payment for people bringing up children. It is paid for each child and is currently not
income related (subject to change in 2013). It is therefore unaffected by student grants and loans received whilst studying.
Child Tax Credit and Working Tax Credit were introduced to improve the way the government supports families with children and working people on low incomes. You may be able to claim Child Tax Credit as a student if you are responsible for a child.
If you’re in hardship and need extra financial support, the university can provide additional financial assistance to eligible enrolled students through the Financial Contingency Fund. You can apply if you’re a full-time or part-time higher education student, as either an undergraduate or postgraduate student.
The Students’ Union offers short term emergency loans. You can apply for a short term loan if you have a sudden, unexpected emergency or if your funding is delayed. You cannot apply for a loan simply because you have run out of money, your emergency has to be unforeseen and unavoidable.
Two types of loans are available to eligible UK students:
You will need to make an online application for your loans and grants. Who you apply to depends on where you normally live:
The NHS Bursary package differs from the support available to non-NHS students. To qualify for NHS financial support, you must be accepted for an NHS funded place on a full or part time course. If you receive an NHS funded Bursary the full costs of your training including your Personal Tuition Fee Element will be paid on your behalf.
In addition to the standard Government funding available, you may be entitled to further funding through Bursaries awarded by Bangor University.
For more information regarding the undergraduate bursaries scheme for current students in 2011–12 see University Student Finance.
Students in receipt of other bursary payments (e.g. NHS, Health &; Social Care Council) will not be eligible for the bursaries scheme.
If you have any queries about funding or any other matters discussed above please contact the Advice Centre.
Rydym ni yma yn Undeb y Myfyrwyr yn deall pa mor brin yw arian. Dyna pam fod gennym ni gynghorwyr cyfeillgar i roi help llaw i chi. Gallwn helpu gyda...
Cyfrifau Banc, Cyllidebu, Dyled, Cronfeydd Caledi, Awgrymiadau Arbed Arian, Benthyciadau Myfyrwyr etc.
Y cyfleuster gorddrafft di-log yw’r ffactor bwysicaf wrth benderfynu ar fanc, nid yr anrheg am ddim! Edrychwch yn bellach na’r trugareddau am ddim a chanolbwyntio ar y budd tymor hir; cofiwch fod cerdyn rheilffordd pobl ifanc yn mynd i fod yn fwy defnyddiol dros amser na chwaraewr MP3 rhad!
Os ydych yn debyg o ddefnyddio eich gorddrafft yn ystod eich cyfnod yn y coleg, yna mae’n hanfodol eich bod yn dewis cyfrif banc myfyriwr isradd sydd yn cynnig gorddrafft di-log digon helaeth ar gyfer eich anghenion. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw uchafswm y gorddrafft sydd ar gael a darllenwch y print man fel eich bod yn gwybod am unrhyw gostau a sut i’w hosgoi.
Cliciwch ar Martin Lewis Money Saving Expert am fwy o wybodaeth ac i weld beth sydd ar gael.
Wrth i chi ddechrau yn y brifysgol byddwch yn byw ar incwm gosodedig, felly mae’n syniad da i gynllunio eich cyllid. Dydi o ddim yn rhywiol ac mae o bosib ychydig yn ddiflas ond bydd cadw cofnod o beth sy’n dod i mewn a beth sy’n mynd allan yn gallu bod o gymorth mawr i chi gyllidebu’n iawn.
Cofrestrwch ar gyfer bancio rhyngrwyd: gwiriwch eich cyfrif ar sail ddyddiol yn ddelfrydol neu fel arall yn wythnosol. Cadwch ddyddiadur gwario, mae’n ffordd wych o gadw golwg ar eich arian ac mae hefyd yn gwneud i chi feddwl ddwywaith cyn prynu pethau diangen.
Manteision cynllunio cyllid
+ rydych yn gwybod faint o arian sydd yn dod i mewn
– rydych yn gwybod faint o arian sydd yn mynd allan
= gallwch gynllunio eich gwario fel nad oes yna byth gyfnodau pan fyddwch heb arian.
Mae gwybod lle’r ydych yn sefyll gyda’ch arian prin yn lleihau straen. Rhowch gynnig ar y gyfrifiannell cyllideb myfyrwyr neu’r cynlluniwr cyllideb ar Money Saving Expert i’ch rhoi ar ben ffordd. Fel arall gallwch bob amser ofyn am fwy o gefnogaeth gan y cynghorwyr cyfeillgar yn y Ganolfan Gynghori.
Nid yw'r mwyafrif o fyfyrwyr sydd yn astudio’n llawn amser yn gymwys ar gyfer JSA yn seiliedig ar incwm nac yn seiliedig ar gyfraniadau.
Er hynny mae yna rai eithriadau i’r rheolau gan gynnwys rhai o’r grwpiau canlynol:
Fe all y grwpiau hyn hawlio rhywfaint o JSA/IS/ESA i’w helpu tros gyfnod yr haf. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r eithriadau cysylltwch â’r Ganolfan Gynghori os gwelwch yn dda.
Mae Budd-dal Plant yn daliad di-dreth ar gyfer pobl sydd yn magu plant. Mae’n cael ei dalu ar gyfer pob plentyn ac nid yw ar hyn o bryd yn dibynnu ar eich incwm (bydd hyn yn newid yn 2013). Nid yw felly yn cael ei effeithio gan unrhyw grantiau neu fenthyciadau yr ydych yn eu derbyn wrth astudio.
Cyflwynwyd Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith i wella’r ffordd y mae’r llywodraeth yn cefnogi teuluoedd gyda phlant a gweithwyr ar incwm isel. Gallwch hawlio Credyd Treth Plant fel myfyriwr os ydych yn gyfrifol dros blentyn.
Os ydych mewn caledi ac angen cymorth ariannol ychwanegol, gall y brifysgol ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr cofrestredig cymwys trwy’r Cronfa Galedi. Gallwch wneud cais os ydych yn fyfyriwr llawn amser neu ran-amser mewn addysg uwch, yn fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig benthyciadau brys tymor byr. Gallwch wneud cais am fenthyciad tymor byr os ydych yn wynebu argyfwng brys, annisgwyl neu os yw eich cyllid yn cyrraedd yn hwyr. Ni allwch wneud cais am fenthyciad os ydych wedi rhedeg allan o arian, mae’n rhaid i’ch argyfwng fod yn un oedd heb ei ragweld ac na ellid ei osgoi.
Mae Llywodraeth y DU yn cynnig dau fath o fenthyciad i fyfyrwyr cymwys.
Bydd angen i chi wneud cais ar-lein am fenthyciadau a grantiau o un o'r sefydliadau isod, yn dibynnu ar ba wlad yr ydych yn byw ynddi:
Mae’r Fwrsariaeth GIG yn wahanol i’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr eraill. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gefnogaeth ariannol yma rhaid i chi gael eich derbyn ar gyfer lle sydd wedi’i gyllido gan y GIG ar gwrs llawn neu ran-amser. Os byddwch chi’n derbyn Bwrsariaeth wedi’i chyllido gan y GIG caiff costau llawn eich hyfforddiant gan gynnwys eich Ffioedd Dysgu personol eu talu ar eich rhan.
Yn ychwanegol i’r cyllido safonol sydd ar gael gan y Llywodraeth, mae’n bosib y bydd gennych hawl i gyllido pellach drwy Fwrsariaethau a ddyfernir gan Brifysgol Bangor.
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cynllun bwrsariaethau i israddedigion cyfredol yn 2011–12 gwelwch Cyllid Myfyrwyr.
Ni fydd myfyrwyr sy’n derbyn taliadau bwrsariaeth eraill (e.e. GIG, y Cyngor Iechyd a Gofal Cymdeithasol) yn gymwys ar gyfer y cynllun bwrsariaethau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gyllido neu unrhyw fater arall sy’n cael ei grybwyll uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Ganolfan Gynghori.